Yn anffodus bu rhaid i Sam Warburton dynnu allan o ymddangos yn y sioe High Performance Live ddydd Sul 25 Mehefin. Yn ei le, mae’n falch gennym i groesawu’r seren rygbi o Gaerdydd Jamie Roberts a fydd yn rhannu’r hyn a ddysgodd ar ei daith gyda Jake a Damian.
Ymunwch ag un o ddarlledwyr chwaraeon mwyaf blaenllaw Prydain, Jake Humphrey, a’r Athro Damian Hughes, sy’n seicolegydd, wrth iddyn nhw droi profiadau bywyd rhai o berfformwyr uchel y blaned yn wersi bywyd i chi.
Mae Jake a Damian yn cyflwyno High Performance, podlediad sydd wedi tyfu i fod yn symudiad lle mae pobl yn buddsoddi amser mewn gwella eu ffordd o feddwl a dod o hyd i’w fersiwn eu hunain o berfformiad uchel. Maen nhw’n datgelu’r cyfrinachau a ddefnyddir gan athletwyr, hyfforddwyr ac entrepreneuriaid mwyaf nodedig y byd i ragori, ac yn eich addysgu chi i wneud yr un peth.
“High Performance is one of my favourite podcasts so it's an honour to be part of this event.”
Owen O’Kane
Bydd y sioe theatr ddynamig a gwefreiddiol hon yn eich cyflwyno i westeion arbennig iawn (gan gynnwys Owen O'Kane) wrth i Jake a Damian wahodd aelodau o’r gymuned High Performance i rannu eu taith, gan ddangos bod hapusrwydd uchel yn bosibl i bob un ohonom.
Nid recordiad podlediad byw yw hwn, ond yn hytrach cyfle unigryw i gysylltu ag aelodau o’r gymuned High Performance, dysgu gan arbenigwyr a rhyngweithio â Jake a Damian.
Mae gennych y gallu i berfformio’n uchel yn barod. Bydd y sioe hon yn eich helpu i ddod o hyd iddo.
“It doesn’t matter where our guest has excelled – in sport, music, business, arts or entertainment – we can all learn from their experiences to help in our everyday lives.”
TOCYN VIP: £102
Mae tocynnau VIP yn cynnwys un o’r seddi gorau ar gyfer y sioe, mynediad i sesiwn holi ac ateb arbennig gyda Jake a Damien cyn i’r awditoriwm agor a chopi wedi’i lofnodi o High Performance: The Daily Journal.
Canllaw oed: 12+
Mae'n bosibl y bydd y sioe yn cynnwys iaith anweddus.
Nodwch fod rhaid i bawb o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Amser dechrau:
Sul 7.30pm
Gall amserlen y perfformiadau a gwesteion newid heb rybudd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai fydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.