Sioe sy’n darparu trafodaeth jellicle am agweddau jellicle y cathod jellicle yn Cats a sut y gallwch chi ychwanegu’r rhain at eich bywyd er mwyn ei wneud yn fyw jellicle.
Gallwch chi ddisgwyl jôcs jellicle, dawnsiau jellicle a chyflwyniad PowerPoint jellicle iawn.
Wedi’i chyflwyno gan y tîm tu ôl i Diana: The Untold and Untrue Story ac wedi’i chanmol gan adolygwyr a chynulleidfaoedd, mae’r sioe gwiar yma sydd fel TedTalk o uffern yn hollol wallgof.
"Catnip for the soul"
"Endearingly nerdy and hilariously horny"
Parodi comedi un person sy’n dathlu un o fethiannau mwyaf sinema dros y blynyddoedd diwethaf.
Dewch i gael amser sili, gwirion, cwiar iawn a hollol jellicle yn llawn gormod o jôcs am bidynnau.
Does dim angen gwybodaeth flaenorol am Cats.
Best Cabaret at Edinburgh Fringe 2022
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, goleuadau sy'n fflachio, cyfranogiad cynulleidfa, Macavity
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.