Oherwydd newid annisgwyl yn amserlen y daith, bydd I Should Be So Lucky nawr yn agor ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2023 yn lle dydd Llun 27 Tachwedd 2023. Rydyn ni wedi cysylltu â deiliaid tocynnau y perfformiad dan sylw drwy e-bost.
Mae'r briodas wedi'i CHANSLO. Ond mae'r mis mêl yn DIGWYDD!
Mae yma. Yr holl ganeuon o’r ‘Hit Factory’ rydych chi’n dwli arnyn nhw – ar y llwyfan o’r diwedd mewn sioe gerdd newydd sbon.
Teithiwch o’r eil i’r haul yn y sioe gerdd Stock Aitken Waterman swyddogol sy’n cynnwys trac sain cenhedlaeth gyda cherddoriaeth gan sêr y byd pop gan gynnwys Kylie Minogue (I Should Be So Lucky), Rick Astley (Never Gonna Give You Up), Jason Donovan (Especially for You), Bananarama (Love In The First Degree) a chymaint mwy, i gyd wedi’u gwau i mewn i’r stori wreiddiol yma.
Mae I Should Be So Lucky, sy’n ddoniol dros ben ac yn emosiynol, yn ymwneud â theulu, ffrindiau, cariad ac amseroedd gwych. Mae anthemau diderfyn, traciau pop poblogaidd a dilyniannau dawns disglair yn dod at ei gilydd gyda 10 cân a gyrhaeddodd Rhif 1 a dros 30 o ganeuon o’r ‘Hit Factory’ y gwnaeth ei gerddoriaeth ddiffinio oes. Caiff y tîm creadigol ei arwain gan seren y llwyfan a’r sgrin Debbie Isitt (cyfarwyddwr ac awdur y fasnachfraint lwyddiannus Nativity!) a Jason Gilkison (cyfarwyddwr creadigol Strictly Come Dancing) a doniau cerddorol Stock Aitken Waterman.
Ella a Nathan, cwpl ifanc, dros eu pen a’u clustiau mewn cariad, ac ar fin cymryd cam mwyaf eu bywydau – priodi. Nes i bopeth fynd o’i le. A fyddan nhw gyda’i gilydd am byth, neu a fydd e’n gwneud iddi grio a dweud hwyl fawr?
Canllaw oed: 12+
Yn cynnwys goleuo strôb.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 10 munud yn cynnwys un egwyl.
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 30 Tachwedd, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Ryan McLean RSLI.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris ucha).
Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4 neu fwy, Maw – Iau (2 bris uchaf).
Trefnu ymweliad grŵp.
DAN 16
Gostyngiad o £4 (2 bris uchaf, Maw – Iau). Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
POBL ANABL, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £4 (Maw – Iau).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.