Gwaith celf rhyngweithiol yw Into the Sun sy’n ymateb i symudiadau’r gwyliwr.
Yma rydyn ni’n sefyll mewn tirwedd naturiol, sydd ond yn dod yn fyw pan fyddwn ni’n rhyngweithio â hi. Mae planhigion yn blaguro ac yn tyfu, gan ddynwared ein symudiadau. Mae coesynnau a dail yn plygu ac yn pwyso tuag atom ni, gan guddio’r haul digidol cynnes a llywio’r sain.
Wedi’i greu gan y grŵp celf a dylunio digidol Universal Everything, mae Into the Sun yn cynrychioli’r gair Japaneaidd ‘komorebi’ – y foment yn gynnar yn y bore neu’n hwyr yn y prynhawn pan fydd golau’r haul yn tywynnu drwy ddail y coed.
Clodrestr
Cyfarwyddwr Creadigol: Matt Pyke
Dylunio a Datblygiad Unity: Chris Mullany
Sain: Simon Pyke
Cynhyrchydd Gweithredol: Claire Spencer Cook
Technegydd Stiwdio: Spike Thompson
Amser agor:
Maw – Sad 11am – 6pm
Sul – Llun 11am – 4pm
Mae hwn yn brofiad cerdded i mewn rhad ac am ddim, does dim angen archebu.
Gall hyd at 4 person brofi Into the Sun ar yr un pryd.
Canllaw oed: Bob oed
Rhaid bod unrhywun dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.