Mae’r cogydd enwog James Martin yn troi’r gwres i fyny gyda thaith newydd sbon ar gyfer 2023.
Yn dilyn taith a werthodd allan yn 2022, bydd James Martin Live yn ymweld ag 20 o drefi a dinasoedd i ddiddanu cynulleidfaoedd gydag arddangosiadau byw a thasgau coginio.
Yn 2022 daeth mwy na 30,000 o bobl i weld James yn llenwi theatrau ac arenau ledled y DU. Cafodd prydau blasus eu paratoi gyda chynulleidfaoedd yn mwynhau gallu James i adeiladu’r frechdan gaws a chig moch mwyaf a gorau erioed, pwdinau Efrog anferth a hyd yn oed ei fersiwn ei hun o hufen ia Funny Feet.
Gyda mwy o ddyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer hydref 2023, mae’r cogydd, sy’n falch iawn o fod yn dod o Swydd Efrog, yn bwriadu gwneud y daith newydd hyd yn oed yn fwy poeth gyda hwyl, chwerthin, bwyd a hyd yn oed cerddoriaeth fyw yn y profiad gastronomegol arbennig hwn.
Cyflwynir James Martin Live gan Cuffe and Taylor gyda Limelight Celebrity Management.
Canllaw oed: 8+
Mae'n bosibl y bydd y sioe yn cynnwys iaith anweddus.
Nodwch fod rhaid i bawb o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Amser dechrau:
Sul 7.30pm
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai fydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.