Mae'r sioe lwyfan boblogaidd ryngwladol, Jersey Boys, ar ei ffordd yn ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru!
Mae'r sioe gerdd hynod lwyddiannus hon wedi ennill 65 o wobrau mawr ac wedi cael ei gweld gan bron i 30 miliwn o bobl ledled y byd.
“Fight for a ticket to see Jersey Boys”
Dim ond pedwar dyn oedden nhw o Jersey, nes iddyn nhw ganu eu nodyn cyntaf un. Roedd ganddyn nhw sŵn nad oedd neb erioed wedi’i glywed o'r blaen… a doedd y radio ddim yn gallu cael digon ohonynt. Ond, er bod eu harmonïau yn berffaith ar y llwyfan, oddi ar y llwyfan roedd hi'n stori wahanol iawn - stori sydd wedi ail gynnau eu llwyddiant unwaith eto. Mae'r sioe yn cynnwys eu holl ganeuon o Sherry, Big Girls Don't Cry, Oh What A Night, Walk Like A Man, i Can't Take My Eyes Off You a Working My Way Back To You.
Ewch y tu ôl i'r gerddoriaeth a thu mewn i stori Frankie Valli a The Four Seasons yn Jersey Boys, y sioe Broadway wreiddiol hon sydd wedi ennill gwobr Olivier. O strydoedd New Jersey i Oriel Anfarwolion Roc a Rôl, dyma'r sioe gerdd sy'n anghredadwy o dda.
“Oh what a night”





Canllaw oed: 12+ (Dim plant dan 2 oed). Yn cynnwys iaith gref.
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau, Sad + Mer 12 Ebrill 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud (yn cynnwys 1 egwyl)
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 30 Ebrill, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Donna Ruane.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (ar y 2 bris drutaf). Aelodaeth.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+ gostyngiad o £5, Llun – Iau, ar y 2 bris drutaf. Trefnu ymweliad grŵp.
CYNIGION DAN 16 A MYFYRWYR
Gostyngiad o £5, Llun – Iau, ar y 2 bris drutaf.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad