Caerdydd - ymunwch â ni am eiliad o lonyddwch yn y prysurdeb.
Mae Mae Glaw yn Bwrw Fel Diferion o Goffi yn olygfa symudiad myfyriol, sy'n cyfuno cerddoriaeth amgylchynol cyfoethog, trosleisio myfyriol a dawns wedi'i hysbrydoli gan y tywydd. Mae'r profiad hwn ar gyfer y rhai sy’n brysur, y rhai sydd wedi profi lludded ac i'r rhai sy'n chwilio am le o fyfyrio mewn byd prysur.
Mae Glaw yn Bwrw Fel Diferion o Goffi yn cynnig eiliad o lonyddwch yng nghanol prysurdeb ein bywydau gwaith. Gydag 1 o bob 5 o bobl yn teimlo na allant reoli straen yn y gweithle, mae'r darn hwn ar gyfer y rhai sydd am ail-werthuso eu perthynas â'r gwaith neu'r rhai sy'n dymuno cymryd peth amser i ymlacio a bod yn llonydd.
Trwy gyfarfyddiad agos atoch lle gallwch sipian coffi, synfyfyrio neu wylio gyda llygaid llydan, Mae Glae yn Bwrw yn eich gwahodd i fyd sydd wedi'i stopio dros dro lle mae coffi’n bragu'n araf ac mae adeiladau concrit yn codi o'r ddaear.
Amser dechrau:
Gwe 7pm (Perfformiad iaith Saesneg)
Sad 7pm (Perfformiad iaith Cymraeg)
Oed: 12+
CYNNIG MYFYRWYR A POBL HŶN
Tocynnau am £8
CYNNIG DAN 26
Tocynnau hanner pris
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £2
Pob cynnig yn amodol ar seddi ddewisiol, dosraniadau ac argaeledd.