Dyddiad newydd wedi'i ychwanegu ar ôl galw mawr: 6 Hydref 2023
Ar ôl galw aruthrol, rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi y bydd Max Boyce yn perfformio cyngerdd na ddylid ei golli yn dathlu 50 mlynedd o ddiddanu.
Bydd Max yn perfformio detholiad o’i hoff ganeuon a hanesion, sydd wedi ennyn hoffter pobl o bob oed ers sawl cenhedlaeth.
Am y tro cyntaf, ar y daith hon bydd y diddanwr poblogaidd o Gymru yn perfformio fersiwn cerddorol o’i gerdd cyfnod clo When Just the Tide Went Out.
Ers rhyddhau’r gerdd yn 2020 mae wedi creu cyffro ar y rhyngrwyd, ac mae wedi cael ei gwylio bron i 8 miliwn o weithiau ar-lein. Cafodd ei dewis fel ‘Pick of the Week’ ar Radio 4 ac mae wedi’i chynnwys yn ei lyfr Hymns and Arias a gyrhaeddodd frig rhestr y gwerthwyr gorau.
Peidiwch â cholli’r cyfle i weld y diddanwr ysbrydoledig yma y mae ei ganeuon a’i straeon wedi dod yn rhan o chwedloniaeth Cymru.
Cyflwynir gan Handshake Ltd.
Canllaw oed: 8+
Amser dechrau: Sul 7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud yn cynnwys un egwyl
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai fydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.