Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Monoliths

Profiad realiti rhithwir

Bocs

8 – 26 Mawrth 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Monoliths {{::on_sale_date.label}} Bocs MM/DD/YYYY 15 event-1664

Monoliths

Profiad realiti rhithwir

8 – 26 Mawrth 2023

Bocs

Profiad realiti rhithwir am ddim yw Monoliths sy’n plethu cyflwyniadau am dri amgylchedd yng ngogledd y DU – rhos, dinas ac arfordir – â seinweddau ysgubol a monologau barddol gan Hannah Davies, Carmen Marcus ac Asma Elbadawi. 

Mae’r profiad VR hwn, sy’n llawn dychymyg ac yn ymdrochol, yn dangos y cysylltiad annatod rhwng person a lle. 

Mae eu straeon a’u gwreiddiau yn gysylltiedig â thirwedd y lle y cawsant eu geni a’u magu. 

Cafodd Monoliths ei enwebu yng Ngŵyl Ffilmiau BFI Llundain am y ‘Best Immersive Art and XR Award 2022’; roedd yn rhan o Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Melbourne a Gŵyl Ffilmiau Byr Aesthetica y llynedd. Cafodd ei gynnwys hefyd yn Sheffield Doc Fest 2022 a gŵyl ddigidol re:publica ym Merlin.  

Clodrestr

Pilot Theatre mewn cydweithrediad â One to One Development Trust

Cyfarwyddwr a Cynhyrchydd | Lucy Hammond
Elfennau Gweledol a Datblygiad VR Creadigol | Andy Campbell a Judi Alston, One to One Development Trust
Dylunydd Sain | Mariana Lopez
Cyfansoddwr| May Chi
Artist Model | Grace Harvey
Deunydd fideo ychwanegol | Dean Hinchliffe
Rheolwr Cynhyrchu | Luke James
Cynorthwyydd Cynhyrchu | Lucy Havelock

Wedi’i ariannu gan XR Stories a PlayOn!

‘The Moorland Calls’
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Hannah Davies

‘The Girl Next Door’
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Asma Elbadawi

‘Small Stones’
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Carmen Marcus

Amseroedd agor:
Maw – Sad 12pm – 6.30pm (Mynediad olaf 6pm)
Sun + Mon 12pm – 4.30pm (Mynediad olaf 4pm)
Bydd y profiad yn rhedeg unwaith yr hanner awr.

Hyd y profiad: Tua 11 munud

Canllaw oed: 13+
Rhaid bod unrhywun dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Gallwch archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y profiad am ddim hwn i sicrhau lle, neu ddod draw ar y dydd.

Mae lle i 3 o bobl ym mhob sesiwn.

Mynediad olaf am 6pm Maw - Sad, 4pm Sul + Llun.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.

Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs