Yn anffodus, mae'r digwyddiad yma wedi cael ei ganslo.
Canu! Dawnsio! Ysgaru?
Dewch i gwrdd â Mr a Mrs Love, teulu brenhinol y byd cabaret dros y 12 mlynedd diwethaf. Ond heno, dim cabaret yn unig sydd yma... mae rhywbeth ar droed o dan y secwinau a thincian y piano; mae rhywbeth ar fin mynd o’i le.
Mae brwydr o galonnau, meddyliau a cherddoriaeth yn dilyn wrth i’r ddau ganu i oroesi, gydag amrywiaeth annisgwyl o offerynnau cerddorol, dawnsio cywilyddus a ffraethineb asidig.
"A smorgasbord of tunes, instruments and fast paced cabaret entertainment."
Amser dechrau: 8.30pm, 8pm drysau
Canllaw oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £2.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.