Ymunwch â’r artist perfformio Cameryn Moore i glywed ei straeon o strydoedd a stiwdios celf Berlin mewn profiad bythgofiadwy, rhyngweithiol a chreadigol.
Brasluniwch, gwyliwch, gwrandewch, gofynnwch gwestiynau... beth fyddwch chi’n ei ddarganfod?
Bydd rhywfaint o ddeunyddiau lluniadu ar gael, neu dewch â’ch offer eich hun.
Hi yw sylfaenydd Smut Slam, rhwydwaith byd-eang o ddigwyddiadau adrodd straeon brwnt (mae digwyddiadau yma ar 28 Ebrill a 26 Mai) a YIKES (dathliad o berfformiadau lletchwith). Dechreuodd Cameryn fodelu’n noeth yn 2017. (Pe bai gwobrau am hynny, efallai y byddai wedi ennill un ohonyn nhw hefyd).
Canmoliaeth am waith blaenorol:
★★★★★ (Broadway Baby)
★★★★ (Edmonton Journal)
Artistic Risk Award (2016 Vancouver Fringe)
Amser dechrau: 3.30pm, 3pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Cynnwys i oedolion, iaith gref, noethni
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.