Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gosodwaith Celf

Nyth/Nest

gan Catrin Doyle a Helen Malia

Glanfa

7 December 2023 – 14 January 2024

Gosodwaith Celf

Nyth/Nest

gan Catrin Doyle a Helen Malia

7 December 2023 – 14 January 2024

Glanfa

Y gaeaf yma mae ardal y Glanfa yn trawsnewid yn gynefin cyfareddol lle mae pobl a fflora a ffawna coedwigol yn byw mewn harmoni.

Gyda nyth cerfluniol hudol, seinwedd goedwigol, printiau gweadwy cynnes a ffurfiau coed helyg cyffyrddadwy, mae Helen a Catrin yn eich gwahodd i gwtsho i fyny a chludo eich hun i’w hoff ofod gaeafol yn y gosodwaith cysurus yma sy’n dod â holl harddwch coetiroedd Cymru dan do.

Mae Helen a Catrin yn ymgyrchwyr dros fioamrywiaeth a'r newid yn yr hinsawdd, ac maen nhw’n defnyddio eu celf i rannu negeseuon am y byd naturiol a meithrin cysylltiadau â’r materion sy’n ymwneud â hynny. Wrth greu’r gweithiau celf yma, maen nhw’n ymrwymedig i ddefnyddio deunyddiau naturiol, organig a bioddiraddadwy lleol, yn ogystal â dod o hyd i brosesau sero wastraff drwy ailbwrpasu deunyddiau.

Cadwch lygad am y llwybr celf NYTH/NEST

Ewch â’ch hun ar daith o amgylch ein hadeilad ar y llwybr celf NYTH/NEST, sy’n cynnwys mandalâu natur a brasluniau coedwigol gan artistiaid hen ac ifanc. Cawsant eu creu yn ystod diwrnod o hwyl yn Coedwig Creu, pan ymunodd cymunedau o Bontypridd a Glan yr Afon yng Nghaerdydd â Helen a Catrin ar gyfer twrio a chreadigrwydd yn y coetir. Ar ôl coginio bara a malws melys ar y tân, gwnaethon nhw goffáu’r diwrnod drwy blannu coeden cnau Ffrengig.

Mae Catrin Doyle yn rhan o’r grŵp tu ôl i brosiect NATURPonty: Gwarchodfa Natur Pontypridd, sy’n dod ag artistiaid, gwyddonwyr a phobl ifanc ynghyd i fod yn greadigol a gwella bioamrywiaeth ym Mhontypridd. Helen Malia yw sylfaenydd Coedwig Creu, hwb o gelfyddydau cyfoes, crefftau treftadaeth a phrosiectau amgylcheddol mewn coetir hardd tu allan i Gaerdydd.

DIOLCH yn fawr iawn i’r timau yn Hwb Glan yr Afon a Phrosiect Cerddoriaeth Glan yr Afon yng Nghaerdydd am eu cefnogaeth. Diolch yn fawr iawn hefyd i Kevin Ford, cerddor a chynhyrchydd, am weithio ochr yn ochr â ni ar ein hantur newydd gyda seinwedd!

Cyflwynir yn

Glanfa