Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Glanfa yw ein gofod perfformio cyhoeddus mwyaf a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau, digwyddiadau, gosodweithiau celf, arddangosfeydd a gweithgareddau crefft i’r teulu am ddim.

Mae’r digwyddiadau mawr sydd wedi cael eu cynnal yma yn cynnwys Gŵyl y Llais, Diwali a Mis Hanes Pobl Dduon.

Mae’r gofod mawr, agored ac amlbwrpas wedi’i leoli ar y llawr gwaelod a gellir ei gyrraedd o’r mynedfeydd ym mlaen a chefn yr adeilad.

Yn y gofod mae toiledau, cyfleusterau newid babanod a lifftiau hygyrch a’n siop goffi Caffi sydd â golygfeydd hyfryd o’r Bae.

Os bydd chwant bwyd arnoch neu os byddai’n well gennych rywbeth cryfach yna mae digon o ddewis yn Bar One a’n bar awyr agor, Teras.

Hefyd, Glanfa yw cartref ein gorsaf radio sydd wedi’i harwain gan bobl ifanc, Radio Platfform, a sefydliadau elusennol eraill sy’n gweithio yma fel Tŷ Cerdd a Touch Trust.