Cymru, cloddio glo a chanu corawl
Wedi'i osod yng Nghymoedd De Cymru yn y 1950au, mae Blaze of Glory! yn dilyn hynt a helynt grŵp bach o lowyr sy'n mynd ar antur gerddorol drwy ffurfio côr meibion er mwyn codi calonnau wedi trychineb gloddio.
Dan arweiniad eu meistr corws arwrol a chefnogaeth y merched cryf sy'n sefyll ochr yn ochr â nhw, mae'r dynion yn mynd ar gyfres o anturiaethau: yn herwgipio iodlwr, yn cymryd rhan mewn trafodaethau hanesyddol ar draws yr Iwerydd gyda Paul Robeson ac yn arwain y ffordd i’r Eisteddfodau a thu hwnt.
"New work set among a fractured mining community affirms the healing power of music"
Mae Blaze of Glory! yn ddathliad o wlad y gân ac yn cydnabod y gall ysbryd cymunedol oresgyn adfyd. Cewch glywed alawon traddodiadol o Gymru ynghyd â synau a cappella o'r 1950au, opereta, gospel a band mawr, wrth i'n band gwrol o gerddorion lindi hopian eu ffordd at ogoniant. Ymunwch â'n dynion mewn blasers am berfformiad i godi calon ac i godi gwên.
wno.org.uk/blaze
#WNOblaze





Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau ar sgrin yn Gymraeg a Saesneg
Amser cychwyn:
Maw, Iau, Gwe + Sad 7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 10 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU
Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%
Archebwch docynnau ar gyfer 5 neu 6 opera ac arbedwch 25%
Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+, gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.
Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED
Tocyn £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.