Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Sioe Arddangos Opera Ieuenctid WNO

Stiwdio Weston

27 + 28 Mai 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Sioe Arddangos Opera Ieuenctid WNO {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Weston MM/DD/YYYY 15 event-1703

Sioe Arddangos Opera Ieuenctid WNO

27 + 28 Mai 2023

Stiwdio Weston

Bil dwbl difyr, gydag addewid wrth ei galon.

Ymgollwch eich hun yn sain dros 80 o leisiau ifanc wrth i Opera Ieuenctid WNO ddod ynghyd i gyflwyno eu sioe arddangos ddiweddaraf.

Gyda chyffyrddiad o’r goruwchnaturiol, bach o ddychan a llwyth o anhrefn, dilynwch hynt a helynt The Pied Piper of Hamelin wrth iddo ddefnyddio’i bib hud i gael gwared ar holl lygod mawr y dref. Ond, pan mae addewid yn cael ei dorri, mae hapusrwydd y dref mewn perygl wrth i’r pibydd dalu'r pwyth yn ôl. Mae’r gerddoriaeth ddarluniadol a’r jigs hiraethus yn arwain yn berffaith at The Crab That Played With The Sea, sy'n seiliedig ar Just So Stories Rudyard Kipling. Profwch y môr a’i donnau a thrawsnewidiad cranc enfawr trafferthus i granc bychan gwylaidd.

 

Wedi’i gyfarwyddo gan Angharad Lee ac yn cynnwys phypedwaith creadigol ac ensemble bychan o offerynwyr, mae’r set wedi’i hysbrydoli gan wersylloedd ieuenctid Llangrannog a Glan-Llyn, a bywiogrwydd safleoedd chwarae plant.

 

#WNOyouthopera

Hyd y perfformiad tua un awr a 15 munud heb egwyl
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

 

Cyfarwyddwr Angharad Lee
Dylunydd Céleste Langrée
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth / Arweinydd Dan Perkin
Dylunydd Golau Cara Hood
Cyfarwyddwr Llais Sian Cameron

Cenir yn Saesneg

Amser cychwyn: Sad + Sul, 3pm + 7pm

Hyd y perfformiad: Tua 1 awr 15 munud heb egwyl

CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED

£7.50 - nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston