Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rhod Gilbert's Hoof Cancer

1 Hydref 2023

Theatr Donald Gordon

Mae Velindre Fundraising a Noddwr Felindre Rhod Gilbert yn falch i gyhoeddi’r gig Hoof Cancer Right Where It Hurts diweddaraf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 1 Hydref 2023.

Dyma fydd y trydydd gig Hoof Cancer mae Rhod wedi’i gyflwyno fel Noddwr Felindre. Bydd y digwyddiad yn codi arian ar gyfer taith gerdded Felindre nesaf Rhod a fydd yn cael ei chynnal ym Mynyddoedd Atlas Morocco o 5 Hydref. Dyma fydd y chweched daith gerdded ar gyfer Felindre mae Rhod wedi’i harwain, yn dilyn Taith Gerdded Kilimanjaro yn 2013, Patagonia yn 2015, Periw yn 2017, Nepal yn 2019 a Chiwba yn 2022.

Bydd y daith gerdded i Morocco yn arbennig o deimladwy am mai dyma fydd y daith gyntaf mae Rhod wedi’i harwain ers ei ddiagnosis o ganser ym mis Mai 2022. 

 

Gall amserlen y perfformiadau a gwesteion newid heb rybudd.

Nodwch fod uchafswm o 6 tocyn fesul archeb.

Canllaw oed: 18+
Nodwch fod iaith gref yn rhan o'r perfformiad yma

Amser dechrau: 7.30pm

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon