Ymunwch â ni ar gyfer rhagbrawf Caerdydd y gystadleuaeth Poetry Slam y Roundhouse, sy’n dod ag artistiaid geiriau llafar datblygol rhwng 18 a 25 oed ynghyd i gystadlu am wobr arian parod a’r teitl Slam Champion 2023.
Am y tro cyntaf, mae gan y Roundhouse bartneriaeth newydd arloesol gyda’r cwmni cyfreithiol rhyngwladol Taylor Wessing. Fel cefnogwr adnabyddus o’r celfyddydau, a gyda’r Roundhouse yn benodol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Taylor Wessing bellach wedi ymuno fel y prif bartner, gan ddechrau partneriaeth bum mlynedd newydd gyda’i gefnogaeth o Poetry Slam y Roundhouse. Bydd eu cefnogaeth yn golygu y gallwn dyfu ei gyrhaeddiad, gan gynnwys cynnal rhagbrawf yn Lerpwl am y tro cyntaf – cartref eu hail swyddfa – yn ogystal â rhagbrofion yn Llundain, Glasgow a Chaerdydd.
Allech chi fod yn bencampwr ein Slam nesaf? Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Poetry Slam 2023 y Roundhouse! Os ydych chi rhwng 18 a 25 oed, dysgwch sut gallwch chi fod yn rhan o un o ddigwyddiadau mwyaf calendr y Roundhouse yma.
Amser dechrau: 7.30pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref