Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Sam Hickman Variety Hour

Cabaret

11 Chwefror 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London The Sam Hickman Variety Hour {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1561

Cabaret

The Sam Hickman Variety Hour

11 Chwefror 2023

Cabaret

Bydd y telynor sy’n canu, y seren hyperleol a’r cymdeithaswr Sam Hickman yn dod â rhai o’i hoff dalentau lleol i Cabaret ym mis Chwefror.

Sam Hickman

Dyma hi fechgyn, dyma hi bawb! Mae’r telynor sy’n canu, y seren hyperleol a’r seren ddatblygol Sam Hickman yn dod â’i llais gwahanol, hardd a gwirion i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda gwesteion arbennig iawn!

Barry, Brian and Bean

Bydd aelodau The Barry, Brian and Bean Company yn perfformio sgetsh o’u sioe newydd Cockroach. Ymunwch â ni am noson o ddetio cyflym. Gallwch chi ddisgwyl rhamant, cwrw am bris rhesymol a chyfrinachau.

Vidhi Chaudhary

Awdur, perfformiwr ac artist yw Vidhi. Mae eu barddoniaeth yn dueddol o archwilio anhrefn y byd a’r gwirionedd bod persbectif yn ddiaros ac nad yw dysgu byth yn gorffen. 

Jasmine Morton

Heb ymddiheuriad, mae Jasmine yn defnyddio comedi fel ei llwyfan ar gyfer therapi rhad ac am ddim, gan ddod â’i straeon anecdotaidd yn fyw drwy stand-yp. Gallwch chi ddisgwyl anturiaethau rhywiol, hanesion hynod ac esgidiau gwych.

Unwaith dywedodd digrifwr sy’n enwog am The Mash Report a Taskmaster ei bod hi’n “ddoniol”. Rywbryd arall dywedodd digrifwr arall sy’n enwog am Live at the Apollo ei bod hi’n “ddeniadol”. Gwnewch be’ fynnwch chi o hynny. 

Casper James

Mae Casper, prif ganwr y band pync o Gymru TELGATE, yn trosglwyddo dewrder ac agwedd ei gerddoriaeth pync i ganeuon acwstig mwy personol – gan greu baledi gonest o’r galon sy’n ymchwilio i themâu cariad a cholled, derbyn newid a delio â’r rhwystrau mae bywyd yn eu cyflwyno i ni. 

Amser cychwyn: 8.30pm, drysau 8pm

Oed: 18+

Rhybuddion: Yn cynnwys iaith anweddus a hiwmor i oedolion.

IECHYD DA!

Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

Cyflwynir yn

Cabaret