Yn dilyn llwyddiant ysgubol ar Broadway, yn y West End a thu hwnt, mae’r sioe gerdd Six sy’n hynod boblogaidd yn rhyngwladol yn dychwelyd i Gaerdydd wedi iddi werthu allan ar ei hymweliad diwethaf!
Mae gan y sioe, a enillodd wobrau Tony am ‘Best Original Score’ a ‘Best Costume Design’ yn 2022, gwobr Whatsonstage am ‘Best West End Show’ 2022 ac sydd ag albwm disg aur, neges gref a phwerus ac mae’n adloniant pur.
“The most uplifting new British musical I have ever had the privilege to watch”
O freninesau Tuduraidd i dywysogesau pop, mae chwe gwraig Harri VIII yn gafael yn y meic i adrodd eu hanesion, gan gymysgu pum can mlynedd o dor-calon hanesyddol mewn dathliad 80 munud o bŵer merched yn yr 21ain ganrif.
Ysgarwyd. Dienyddiwyd. Yn Fyw!
“Exhilarating entertainment from six killer Queens. They will, they will rock you!”
“Smart. Sassy. I’d give this ridiculously fun musical six stars if I could”
Canllaw oed: 10+ (ddim plant dan 2 oed).
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn. Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys iaith anweddus a goleuadau strôb.
Amser cychwyn:
Maw, Iau + Sad 8pm
Mer + Gwe 5.30pm + 8.30pm
Sad 4pm + 8pm
Hyd y perfformiad: Tua 80 munud (dim egwyl).
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 10 Awst, 8pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Donna Ruane.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol, nifer cyfyngedig o lefydd. Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £3, Maw – Gwe 5.30pm. Trefnu ymweliad grŵp
CYNIGION I BOBL DAN 26 A MYFYRWYR
Gostyngiad o £3, Maw – Gwe 5.30pm.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.