Pwy sy’n byw mewn pinafal o dan y môr ac yn seren enwog ar broadway? SpongeBob Squarepants!
Pan mae dinasyddion Bikini Bottom yn darganfod y bydd llosgfynydd yn echdorri yn fuan ac yn dinistrio eu cartref, rhaid i Spongebob a’i ffrindiau ddod at ei gilydd i achub tynged eu byd dan y môr!
“a feast for the eyes and ears... It’s shore to be a winner!”
Gyda’r seren gerddorol o Pop Idol Gareth Gates ac eicon RuPaul’s Drag Race Divina De Campo, mae The SpongeBob Musical, a ysgrifennwyd gan Kyle Jarrow ac a luniwyd gan Tina Landau, yn cynnwys ton o ganeuon gwreiddiol gan artistiaid roc a phop mwyaf eiconig y byd, gan gynnwys Yolanda Adams, Steven Tyler a Joe Perry o Aerosmith, Sara Bareilles, Jonathan Coulton, Alex Ebert o Edward Sharpe & The Magnetic Zeros, The Flaming Lips, Lady A, Cyndi Lauper, John Legend, Panic! At The Disco, Plain White T’s, They Might Be Giants a T.I., a chaneuon gan David Bowie, Tom Kenny ac Andy Paley. Geiriau ychwanegol gan Jonathan Coulton. Cerddoriaeth ychwanegol gan Tom Kitt.
Mae The SpongeBob Musical yn berl o sioe sy’n siŵr o wneud argraff ar gynulleidfaoedd, hen ac ifanc, fel y sioe gerdd y mae’n rhaid ei gweld yn 2023.
“hysterically loopy charm…. I’m hooked”
“Full of funny lines and some hilarious visual gags, the whole thing is a complete joy”
Canllaw oed: 5+ (dim plant dan 2 oed)
Mae'n bosibl y bydd y cynhyrchiad hwn gynnwys goleuadau strôb.
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser dechrau:
Maw – Sad 7pm
Mer + Sad 2pm
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 8 Mehefin, 7pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd i'w gadarnhau.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), nifer cyfyngedig o lefydd. Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Maw – Iau, ar y 2 bris uchaf. Trefnu ymweliad grŵp
POBL O DAN 16 OED / MYFYRWYR
Gostyngiad o £4, Maw – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.