Mae Strictly Ballroom: The Musical yn mynd ar daith newydd ar draws y DU ac Iwerddon yn serennu’r ffefryn o Strictly Come Dancing, Kevin Clifton* a Maisie Smith o BBC EastEnders.
Cyfarwyddwyd a chyd-goreograffwyd gan hoff feirniad deledu Prydain, Craig Revel Horwood, mae Strictly Ballroom: The Musical yn dilyn y dawnsiwr neuadd ffroenuchel, gwrthryfelgar, Scott Hastings (Kevin Clifton).
Pan mae ei arddull radical a mentrus o ddawnsio yn achosi iddo fynd allan o fri yr Australian Federation, mae’n rhaid iddo ddawnsio gyda’r dechreuwraig, Fran (Maisie Smith).
“A JOYUS BLAST. STRICTLY BRILLIANT.”
Ynghyd maent yn dod o hyd i’r dewrder i herio traddodiad a darganfod nad oes rhaid gadw’n ffyddiog at arddull y neuadd ddawns er mwyn ennill.
Yn cynnwys y caneuon poblogaidd Love is in the Air, Perhaps Perhaps Perhaps a Time After Time, a cherddoriaeth gwbl newydd wedi’i ysgrifennu gan artistiaid wrth galon y byd i gyd gan gynnwys Sia, David Foster ac Eddie Perfect.
Bydd y sioe wefreiddiol a bywiog hon yn siŵr o fod yn noson fythgofiadwy dan y belen gliter.
Canllaw oed: 12+
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau a Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 hwr 20 minud (yn cynnwys un egwyl)
*Ni fydd Kevin Clifton yn perfformio ar 23 a 24 Ionawr 2023. Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
Cynigion I Aelodau
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.
U26 a Myfyrwyr Aelodau
Gostyngiad o £4, seddi penodol.
Cynigion i grwpiau
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.