Caneuon cyfarwydd; steil anghyfarwydd!
Noson cabaret sydd yn arddangos y doniau cerddorol a lleisiol gorau. Fe wnawn ni ddangos ochr newydd i’ch hoff ganeuon.
Thema'r mis yma yw “Breninesau Pop y ‘00au” a gallwch ddisgwyl caneuon Beyoncé, Britney, Christina ac Adele mewn steil gwahanol i'r arfer. Efallai clywch fersiwn rhywiol ar y sacsoffon o Single Ladies, unawd gitâr roc o Bad Romance, neu leisiau melys yn canu’r gân Since U Been Gone fel côr.
Rydym yn falch iawn ein bod yn perfformio’n hollol fyw. Dim traciau sain, dim autotune. Dim ond ein hofferynnau a’n lleisiau.
Mae ein sioeau Cabaret Amgen yn hamddenol – bydd y bar ar agor, a bydd cyfle i sgwrsio â’n perfformwyr.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i'n noson amgen o gerddoriaeth cabaret byw!
Amser dechrau: 8.30pm, drysau 7.30pm
Canllaw oed: 15+
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.