Terfysg amlddisgyblaethol o straeon teimladwy a gwreiddiol sy’n disgrifio llawenydd, gobaith, ofn a gorbryder arddegwyr sy’n byw yn y byd modern yma yw These Are Rituals.
Drwy symudiadau, theatr, barddoniaeth a phop, mae grŵp o ffrindiau ifanc yn rhannu arsylwadau pwerus a phersonol a straeon am faterion fel hiliaeth, cymuned, hunaniaeth a newid. Wedi’i ddatblygu o weithdy ‘Theatre for Critical Consciousness’ a ddyluniwyd gan Kindred Collective, ac wedi’i berfformio gan grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 10 ac 11 o Harris Academy Peckham, mae These Are Rituals yn gynhyrchiad cydweithredol a lwyfannwyd yn wreiddiol yn Theatre Peckham.
Amser dechrau: 7pm
Hyd y perfformiad: 45 munud
Canllaw oed: 14+
Bydd sesiwn holi ac ateb ar ôl y sioe gyda’r cast a chydlynwyr y gweithdy.