Gwnewch eich hunain yn gyfforddus a mwynhewch dair ffilm aeafol fer gan Efa Blosse-Mason a Casi Wyn.
Mae triawd y gaeaf yn cynnwys Dawns y Ceirw, Calon Rew, sydd am greadur y mae ei galon wedi troi’n rhew, ac animeiddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar o’r enw Sêr a Rhubanau a fydd yn cael ei ddangos yma am y tro cyntaf o 20 Rhagfyr, mewn pryd i’r Nadolig!
Does dim angen archebu. Caiff yr animeiddiadau eu chwarae un ar ôl y llall drwy gydol y dydd ac maen nhw am ddim i bawb eu mwynhau.
Dangosir mewn partneriaeth ag Archif Ddarlledu Cymru.
Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, BBC, ITV ac S4C.
Animeiddiwr a gwneuthurwr ffilmiau o Gaerdydd yw Efa Blosse-Mason. Astudiodd animeiddio yn Ysgol Animeiddio Bryste ac yn 2019 enillodd Wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am yr Animeiddiad Gorau Israddedig gyda’i ffilm Earthly Delights.
Cyfansoddwr, cantores a bardd yw Casi Wyn. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2021–2023. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ledled Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.
Amseroedd agor:
Llun – Sul 11am – 6pm
Dim dangosiadau 25 + 26 Rhagfyr, 1 + 2 Ionawr
Does dim angen archebu, galwch heibio unrhyw bryd.
Hyd: Tua 10–15 munud.
Canllaw oed: Mae croeso i bobl o bob oed. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.