Mae’r cwmni drag anableddau dysgu House of Deviant a’r band cynhwysol Vaguely Artistic yn uno unwaith eto i gyflwyno Vaguely Deviant: Summer Edition – noson unigryw o gerddoriaeth a drag.
Gallwch chi ddisgwyl canu gwreiddiol a chofiadwy gan Vaguely Artistic, wedi’i gymysgu ag anhrefn a sgwrsio gan Freninesau House of Deviant.
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2021/Cabaret/Vaguely%20Artistic/vaguely2-min.jpg)
Vaguely Artistic
Band ffync, blues, soul, pop, roc a phync mewnol Hijinx yw Vaguely Artistic. Gan ysgrifennu eu traciau gwreiddiol eu hunain a’u rhannu yn uchel ac yn falch, maen nhw’n chwarae popeth o The Beatles i Iggy Pop a Reef. Maen nhw wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, sydd ar gael ar Bandcamp a phob gwasanaeth ffrydio mawr. Dydych chi erioed wedi clywed dim byd tebyg!
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2023/Cabaret/House%20of%20Deviant%20Eurovision/House-of-Deviant-1.jpg)
House of Deviant
House of Deviant yw’r unig gwmni drag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae eu poblogrwydd wedi tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020 ac maen nhw’n brosiect a gyd-gynhyrchir yn Ne Cymru sy’n defnyddio perfformiadau drag fel ffordd o archwilio hunan-barch, hyder ac annibyniaeth i oedolion ag anableddau dysgu. Maen nhw’n ffyrnig, yn anhygoel ac yn wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi’i weld o’r blaen!
Amser dechrau: 8.30pm, 8pm drysau
Canllaw oed: 15+
Rhybuddion: Iaith gref, goleuadau sy’n fflachio
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.