Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Drag queen Lilly SnatchDragon in a hot pink gown and wavy turquoise wig with a unicorn horn

Winter Muffs

Cardiff Cabaret Club

Cabaret

24 + 25 Tachwedd 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Winter Muffs {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-1872

Cabaret

Winter Muffs

Cardiff Cabaret Club

24 + 25 Tachwedd 2023

Cabaret

Detholiad unigryw o berfformwyr bywiog o dan arweiniad y clown bwrlésg Mariposa Bop.

Gyda'r frenhines drag neo arobryn Lilly SnatchDragon, y brenin drag Mark Anthony a sylfaenydd Heels Empowerment, Geeo Rose.

Byddwch yn siŵr o gochi gyda Chlwb Cabaret Caerdydd, FooFooLaBelle a'u danteithion drygionus!

Mariposa Bop

Yn rhannol act clownio ac yn rhannol gelfyddyd perfformio, mae’r deimladwy o ddoniol Mariposa Bop wedi bod yn dod â naratif cymeriadau’n fyw drwy neo-stripio ers 2014.

Hi yw cynhyrchydd a churadur yr Apothecary Cabaret ac mae’n aelod gweithgar o gwmni bwrlésg ac adloniant y Scarlet Vixens. Mae Bop yn adnabyddus fel artist perfformio bwrlésg amryddawn a chreadigol sydd â repertoire helaeth, fel cyflwynydd ac MC, ac fel perfformwraig ryngweithiol iawn sy’n ddiffuant yn ei hawydd i wneud i gynulleidfa gymeradwyo, chwerthin a meddwl.

Lilly SnatchDragon

Cyflwynydd, artist bwrlésg a brenhines ddrag comedi wleidyddol ryngwladol lwyddiannus yw Lilly SnatchDragon. Gyda’i hymdriniaeth o’r ffordd mae’r Gorllewin yn ystrydebu merched o Dde-ddwyrain Asia, enillodd wobr y Newydd-ddyfodiad Gorau yng Ngwobrau Cabaret Llundain yn 2015.

Mae wedi bod yn rhestr deg uchaf ‘Perfformwyr Bwrlésg Mwyaf Dylanwadol Prydain’ ers 2015, gan gynnwys rhif 1 yn 2017, ac ar hyn o bryd mae’n rhif 37 yn y byd ac yn rhif 4 yng ngwledydd Prydain.

Geo Collins

Dawnswraig broffesiynol a dawnswraig sodlau yw Geo Collins, sydd wrth ei bodd yn addysgu ac yn perfformio. Fel dawnswraig broffesiynol, coreograffydd a sylfaenydd cwmni Heels Empowerment, mae wedi llwyddo i ddatblygu cymuned gyffrous dros y pedair blynedd diwethaf.

Mae Geo’n cynnal cannoedd o ddosbarthiadau, gweithdai a digwyddiadau ar gyfer dawnswyr ar bob lefel, a’r hyn sy’n ei gyrru yw ei hangerdd dros greu amgylchedd hwyliog, cynhwysol a diogel i’w chleientiaid i gofleidio eu hochr synhwyraidd a thanio eu hyder! Mae Geo hefyd yn defnyddio ei llwyfan er daioni, gan roi’n ôl i elusennau fel Cymorth i Ferched Cymru a Breast Cancer Now.

FooFooLaBelle

Yn glam yn aml, a bob amser yn hurt – mae Stephanie, neu FooFooLaBelle, wedi bod yn llwyddiant byd-eang, yn carlamu rownd y byd ers dros 30 mlynedd! Mae’n ddawnswraig, yn gantores, yn goreograffydd, yn gynhyrchydd, yn fam ac yn berchennog busnes, a hi oedd sefydlydd Clwb Cabaret Caerdydd yn 2007. Mae wedi cynhyrchu dros 250 o sioeau ac wedi dysgu miloedd o ddosbarthiadau a gweithdai lle mae croeso i berfformwyr o bob oedran a phrofiad.

Mae hi’n creu’n gyson, iddi hi ei hunan ac i deulu Clwb Cabaret Caerdydd. Yn adnabyddus am ei champrwydd eithafol, bwrlésg doniol a chwerthinllyd, a pherfformiadau canu a thaflu. Gwyliwch allan am ei sioeau theatr a’i phrosiectau unigol.

Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau

Oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref, noethni, goleuadau sy’n fflachio a synau uchel.

IECHYD DA!

Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret