Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gweithio ar ddarn newydd o ddawns ar gyfer ei daith PULSE | PWLS.
Yn ystod yr ymarfer agored hwn byddwch yn gweld y coreograffwyr, Sarah Golding ac Yukiko Masui (SAY), a dawnswyr CDCCymru wrth eu gwaith, a byddwch yn codi cwr y llen go iawn yn y Tŷ Dawns.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ar y diwedd.
Bydd yr ymarfer agored hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw drwy dudalen Facebook CDCCymru.
Amser dechrau: 6pm
Hyd y perfformiad: 1 awr