Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

All Aboard! At Termination Station

WEDI'I GANSLO

Cabaret

1 Mehefin 2024

Cabaret

All Aboard! At Termination Station

WEDI'I GANSLO

1 Mehefin 2024

Cabaret

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, mae'r digwyddiad yma wedi'i ganslo. Rydyn ni wedi cysylltu â deiliaid tocynnau drwy e-bost.

Cabaret-comedi am erthyliad…obvs!

Dyma stori Lilly: chwedl hunangofiannol eofn, ffraeth a ffres. Anffawd sy’n datod o’r tu fewn allan.

Dyma gofio’r bobl hynny a deimlodd yn unig, yn euog, a deimlodd rhyddhad, cywilydd, neu fawr ddim. I’r bobl hynny a waedodd lawer, neu fawr ddim. I’r bobl sy’n meddwl amdano'n aml a’r rheiny sydd ddim.

Bydd y gwaith hwn yn eich tanio chi i godi ar eich traed i gefnogi hawliau atgenhedlu!

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

"As funny and entertaining as it is moving"

The Indiependent

"Fearlessly funny and painfully poignant"

Shami Chakrabarti

Pint Sized New Writers Award 2019
Lilly Burton

Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau

Canllaw oed: 18+

Rhybuddion: Goleuadau strôb, synau uchel, themâu gofidus neu a all beri gofid, iaith gref, cyfranogiad cynulleidfa

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret