Dychwela Anuvab Pal ar fusnes swyddogol.
Yn dilyn Brexit, mae Llywodraeth Prydain am werthu’r syniad o Brydeinrwydd i India. Maent wedi gwneud hyn o’r blaen, ond gyda chanlyniadau amheus. Maent wedi creu Adran Prydeinrwydd ac wedi cyflogi Anuvab Pal. Fe fydd e’n esbonio’n fanwl pam y dylai Indiaid gofleidio Prydeinrywdd, gan ei fod e wedi gwneud hyn eisoes. Mae helbul ar y gorwel.
"One of India's top comedians."
Fel y gwelir ar Amazon Prime, QI a’r Big Asian Stand-Up (BBC Two).
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.