Bydd yr eicon antur, y cyflwynydd teledu arobryn a’r awdur llwyddiannus Bear Grylls yn ysbrydoli ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd ym mis Ebrill gyda’i straeon am antur a goroesi.
Bydd y sioe, a fydd yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan, yn cynnwys delweddau dychrynllyd, na welwyd o’r blaen, a fideos tu ôl i’r llen anhygoel sy'n adrodd stori dyn sydd byth yn rhoi fyny.
Mae Bear Grylls yn fwyaf adnabyddus am wthio ei hun, yn feddyliol ac yn gorfforol. Gan fynd â'r gynulleidfa ar daith gyfareddol drwy ei fywyd anhygoel, o’i ddyddiau cynnar yn 21 SAS i ddod yn un o ddringwyr ieuengaf erioed Everest, mae ei stori’n ymwneud â goresgyn adfyd a methiant yn ogystal â phenderfyniad dygn i ddilyn eich breuddwydion.
Bydd Bear yn rhannu straeon am ei brofiadau yn y gwyllt a’i eiliadau mwyaf cyffrous o oroesi a gwydnwch – o wella yn dilyn damwain parasiwt a oedd bron yn angheuol lle torrodd ei gefn, i’r heriau corfforol anferth mae wedi eu hwynebu yn y gwyllt, gan oroesi er gwaethaf pob disgwyl.
Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed)
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser dechrau: 7.30pm
Hyd y perfformiad: i'w gadarnhau
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.