Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Blood Brothers

20 – 24 Awst 2024

Theatr Donald Gordon

Mae sioe gerdd arbennig Willy Russell yn adrodd hanes hudol a chyffrous pâr o efeilliaid a wahanwyd wedi’u genu, sydd yna'n cael magwriaeth gwbl wahanol cyn cwrdd eto o dan amgylchiadau trasig.

Ychydig iawn o sioeau cerdd sydd wedi’u cymeradwyo cymaint â Blood Brothers, sydd hefyd wedi ennill nifer fawr o wobrau. Rhedodd y cynhyrchiad am fwy na 10,000 o berfformiadau yn West End Llundain, un o ddim ond pedair sioe gerdd i gyrraedd y garreg filltir honno erioed. Mae wedi cael y llysenw 'Sioe Gerdd Cymeradwyaeth Sefyll' am ei bod yn anochel y bydd y gynulleidfa yn codi ar eu traed gan floeddio eu cymeradwyaeth. 

Mae’r sgôr rhagorol yn cynnwys Bright New Day, Marilyn Monroe, Easy Terms a’r gwefreiddiol Tell Me It’s Not True.

“EXHILARATING…ONE OF THE BEST MUSICALS EVER WRITTEN”

Sunday Times

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Yn cynnwys iaith gref a goleuadau sy'n fflachio. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 45 munud (yn cynnwys un egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig o lefydd)
Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £3 o leiaf, Maw – Iau (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp

O DAN 16

Gostyngiad o £10, Maw – Iau (2 bris uchaf)

16-30

Gostyngiad o £8, Maw – Iau (prisiau 2 – 5)

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon