Pan mae Dad yn teimlo fel ymlacio ar bnawn dydd Sul, mae cynlluniau eraill gan Bluey a Bingo! Ymunwch â nhw wrth iddyn nhw ddefnyddio eu gemau a’u deallusrwydd i wneud i Dad godi oddi ar y sach eistedd.
Addasiad theatraidd newydd sbon o’r gyfres deledu arobryn i blant sydd wedi ennill gwobr Emmy yw Bluey’s Big Play, sydd â stori wreiddiol gan greawdwr Bluey, Joe Brumm, a cherddoriaeth newydd gan gyfansoddwr Bluey, Joff Bush.
'A glorious celebration of everything you love about the show'
Ymunwch â’r teulu Heeler yn eu sioe theatr fyw gyntaf sydd wedi’i chreu yn arbennig i chi, gyda phypedau rhagorol. Dyma Bluey fel erioed o’r blaen, yn fyw ar y llwyfan yn y premiere yma yn y DU.
Cynhyrchir Bluey's Big Play gan Andrew Kay a Cuffe & Taylor gyda Windmill Theatre Co ar gyfer BBC Studios.
'There’s no better show to inspire a lifelong love of the stage in your littlies'
Canllaw oed: 3+ (nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn)
Amser dechrau:
Mer 10am
Iau 10am + 4.30pm
Gwe 10am, 1pm + 4.30pm
Sad 10am, 1pm + 4pm
Sul 10am
Hyd y perfformiad: tua 50 munud (dim egwyl)
BABANOD AR LINIAU
Ar gael i blant 0-18 mis oed gydag oedolyn yn eu gwarchod
Sicrhewch eich bod yn dewis ein tocyn 'Safonol a Babi' am £2 ychwanegol (nodwch fod nifer cyfyngedig i bob perfformiad)
YSGOLION
Tocynnau £12.50 - un tocyn athro am ddim i bob 10 tocyn a brynir (ffoniwch 029 2063 6464)
POBL O DAN 16 OED
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (Mer – Gwe, uchafswm o 3 fesul archeb)
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.