Ymunwch â ni ar gyfer Bog Off – sioe Ddrag Cabaret Tracy Beaker!
Mae’r sioe ddrag hynod boblogaidd yn dod i Gaerdydd ar fws mini ‘Dumping Ground’. Duke gyda’i baced o Skips a Chapri-Sun mefus, sy’n gyrru.
Dewch i weld rhai o sêr drag mwyaf Llundain wrth iddynt ddehongli rhai o gymeriadau mwyaf eiconig y flwyddyn 2000. Gallwch ddisgwyl cydwefuso, canu byw penigamp, gemau mentro a digon o gryno ddisgiau Maroon 5 i bara oes. Gyda Tracy, Cam, Justine, y Wellards a mwy, ymunwch â ni ar gyfer sioe sydd hyd yn oed yn fwy gwyllt na rêf yn Stowey House!
Welwn ni chi yno! A chofiwch...
DIM MYNEDIAD I ELAINE.
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.