Saith deg munud. Saith cyfres. Un Spike.
Mae’r perl bywiog yma yn cyflwyno’r 144 o benodau o’r sioe deledu boblogaidd o’r 90au Buffy the Vampire Slayer drwy lygaid yr un person sy’n ei wybod yn llwyr… Spike. Mae Buffy Revamped yn teithio’r DU yr hydref yma yn dilyn ei berfformiad cyntaf arobryn yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a dwy daith genedlaethol a werthodd allan.
Yn ddoniol, yn ddychanol ac yn llawn cyfeiriadau at ddiwylliant-bop y 90au, dyma’r parodi perffaith ar gyfer arbenigwyr ar Buffy a’r rhai na gofrestrodd yn Sunnydale High erioed.
Crëwyd gan y digrifwr Brendan Murphy yr enillodd ei sioe ddiwethaf FRIEND (The One with Gunther) y Ddrama Orau yng ngwobrau comedi World Wide.
“Brendan is brilliant, the show was brilliant, and if you want to have a brilliant time then Buffy Revamped is where you need to be.”
“Do yourself a favour, go see Buffy: Revamped! This show slays!”
Ysgrifennwyd a Pherfformiwyd gan Brendan Murphy, Cyfarwyddwyd gan Hamish MacDougall, Dylunio Tafluniadau gan Bruno Collins, Dylunio Sain gan James Nicholson
Enillydd: Sioe Un Person Orau a Pherfformiad Comedi Gorau yng Ngwobrau DarkChat 2022.
Canllaw oed: 14+
Rhybudd: iaith gref
Amser cychwyn:
7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr 10 munud (dim egwyl)
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.