Mae’r awdur, actores, flogiwr a’r seren arobryn Carrie Hope Fletcher, y gellir dadlau yw perfformiwr West End mwyaf adnabyddus ei chenhedlaeth, yn mynd ‘nôl ar daith yn yr hydref!
Yn Love Letters bydd Carrie yn archwilio pob math o gariad; o ramantus i famol, annychweledig (unrequited) i obsesiynol, wedi’u cyflwyno drwy gyngerdd o ffefrynnau theatr gerdd. Bydd seren y West End Jamie Muscato yn ymuno â Carrie fel gwestai arbennig yn ei sioe yng Nghaerdydd.
Mae Carrie Hope Fletcher yn fwyaf adnabyddus am chwarae Éponine a Fantine yn Les Misérables, Veronica yn Heathers, Wednesday yn The Addams Family, Cinderella yn Andrew Lloyd Webber’s Cinderella a Beth yn nhaith arena The War of the Worlds ochr yn ochr â Jason Donovan. Mae ganddi dros hanner miliwn o ddilynwyr yn y DU ac mae wedi ysgrifennu nifer o nofelau sydd wedi bod ar restrau’r gwerthwyr gorau, gan gynnwys All I Know Now: Wonderings a Reflections on Growing Up Gracefully, a gyrhaeddodd frig y siartiau llyfrau yn y DU.
Canllaw oed: 8+
Amser dechrau: 7.30pm
Hyd y perfformiad: i'w cadarnhau
CYFARFOD A CHYFARCH
Tocynnau £99 yn cynnwys cyfle i Gyfarfod a Chyfarch
Defnyddiwch y cyfleuster 'dewis yn ôl pris' yn hytrach na'r map seddi wrth archebu i ddewis tocynnau VIP.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.