Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cat Royale

Gosodwaith fideo – a all cathod fyw mewn cytgord ag AI?

Bocs

19 Ionawr – 18 Chwefror 2024

Bocs

Cat Royale

Gosodwaith fideo – a all cathod fyw mewn cytgord ag AI?

19 Ionawr – 18 Chwefror 2024

Bocs

A fyddech chi’n ymddiried mewn robot i ofalu am eich anifail anwes?

Mae’r gosodwaith fideo am ddim yma’n dangos tair cath – Ghostbuster, Pumpkin a Clover – yn byw am 12 diwrnod mewn amgylchfyd a grëwyd yn arbennig gan artistiaid. Gofalwyd am eu holl anghenion: bwyd, diod, aerdymheru, silffoedd uchel iddynt ymlacio arnynt, cuddfannau i gysgu ynddynt a phostyn crafu o’r llawr i’r nenfwd.

Yng nghanol yr ystafell roedd braich robot a reolir gan AI a gysylltwyd i system weledigaeth gyfrifiadurol. Bob ychydig funudau roedd yr AI yn dweud wrth y robot i gynnig gêm i’r cathod. Gydag amser, fe ddysgodd pa gemau roedd pob cath yn eu hoffi orau. Roedd y robot yn taflu peli neu’n eu rhoi ar y llwybr peli, yn hongian plu, yn cynnig byrbrydau, yn cyflwyno bocs cardfwrdd, yn canu clychau ac yn llusgo llygoden tegan.

Cyflwynir canlyniadau’r prosiect unigryw hwn gan Blast Theory drwy ffilm saith awr o hyd a fydd yn cael ei chwarae bob dydd yn y Bocs.

Dewch i weld yr iwtopia yma ble mae cathod yn byw mewn cytgord â deallusrwydd artiffisial.

Dewch i ’nabod y Cathod

Mae Ghostbuster yn gath Siamaidd pedair blwydd oed. Mae ganddo fiaw uwchsonig sy’n mynnu sylw gan bawb.

Mae Pumpkin yn gath sinsir a gwyn tair blwydd oed. Mae e wrth ei fodd yn swatio dan ei hoff flanced ac yn darganfod cuddfannau i gysgu ynddynt.

Mae Clover yn gath calico tair blwydd oed. Mae Clover yn acrobat. Mae hi wrth ei bodd yn trin unrhyw ystafell fel cwrs ystwythder.

Er mwyn sicrhau bod y cathod yn gyfforddus ac yn ddiogel, roedd arbenigwyr lles anifeiliaid yn rhan o gynllunio’r prosiect o’r cychwyn ac roedd uwch staff yr RSPCA yn goruchwylio drwy gydol y 12 diwrnod.

Ewch i wefan Blast Theory i ddarganfod rhagor am y prosiect hwn, gan gynnwys mesurau lles, y dechnoleg a ddefnyddir a datganiad yr artistiaid.

Amseroedd agor:
Llun – Sul 10am – 5pm

Nid oes angen archebu, dewch i mewn

Hyd y ffilm: Mae’r ffilm yn para 7 awr ac yn cofnodi cynnydd y prosiect 12 diwrnod. Mae croeso i ymwelwyr fynd a dod fel y dymunant drwy gydol y dangosiad (yn amodol ar le).

Canllaw oed: Mae croeso i bawb o bob oed. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. 

Clodrestr

Mae Cat Royale yn bosib yn sgil rôl Blast Theory fel Llysgenhadon Diwylliannol ar gyfer y ‘Trustworthy Autonomous Systems Hub’ (prosiect ymchwil a gyllidwyd gan UKRI). Crëwyd y gwaith fel rhan o gydweithrediad eang gydag ymchwilwyr Mixed Reality Lab Prifysgol Nottingham; a’r Athro Clara Mancini o’r Brifysgol Agored a’r Athro Daniel Mills o Brifysgol Lincoln.

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs