Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Come As You Are: Pride Burlesque

Cardiff Cabaret Club

Cabaret

21 + 22 Mehefin 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Come As You Are: Pride Burlesque {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2127

Cabaret

Come As You Are: Pride Burlesque

Cardiff Cabaret Club

21 + 22 Mehefin 2024

Cabaret

Ymunwch â Chlwb Cabaret Caerdydd ar benwythnos Pride ar gyfer dathliad aflafar o’r hunan – lle mae croeso i bawb.

Eisteddwch, mwynhewch y gwasanaeth bwrdd a pharatowch ar gyfer parti.

Yr un mor wirion ag y mae’n gnawdol, byddwch chi’n bloeddio, yn cymeradwyo ac yn crio chwerthin wrth i’n cast o berfformwyr talentog gyflwyno comedi, cerddoriaeth fyw a bwrlésg i chi.

Yn cynnwys rhai o berfformwyr cabaret mwyaf mawreddog y DU ochr yn ochr â doniau lleol.

Wedi’i gyflwyno gan DJ Wolfy

Gyda: Foo Foo Labelle, Cadbury Parfait, Seedy Frills, Ana Kiss, Goldie Luxe a Sir Dezperado.

DJ Wolfy

Wolfy yw brenin Canal Street. Yn dod o bentref hoyw Manceinion, mae’n artist perfformio, cynhyrchydd a brenin drag trawsryweddol. Mae wedi gweithio’n rhyngwladol a theithio’r DU ochr yn ochr â sêr o RuPaul’s Drag Race. Gyda dros ddegawd o brofiad mae’n siŵr o gyflwyno noson gamp i’w chofio.

Cadbury Parfait

Artist bwrlésg cwiar Du yw Cadbury Parfait. Mae’n berfformiwr rhyngwladol arobryn sy’n cyflwyno bwrlésg clasurol gydag awgrym o hiwmor tafod yn eich boch Prydeinig.

Seedy Frills

Mae Seedy Frills yn wallgof! Fel digrifwraig bwrlésg arobryn rhyngwladol o Swydd Gaerhirfryn, gyda’i chomedi gacen gaws flasus, mae hi’n siŵr o bryfocio yn ogystal â gogleisio!

Gan gymysgu ysbrydoliaethau o ddigrifwragedd y sgrin fawr o ‘slawer dydd fel Lucille Ball gyda hiwmor ‘Carry On’ Prydeinig, mae’n anodd peidio â dwli ar fynegiadau wynebol bywiog a giamocs drygionus Seedy.

Foo Foo Labelle

Ffurfiodd Foo Foo Labelle/Stephanie Gawne Glwb Cabaret Caerdydd yn 2007, cymuned unigryw a chynhwysol o gyfeillgarwch, mewnwelediad a dealltwriaeth sy’n grymuso a meithrin hunan-ddatblygiad, creadigrwydd a delwedd corff gadarnhaol. Gan greu sioeau a dosbarthiadau lle mae croeso i berfformwyr o bob oed a phrofiad, mae Foo Foo wedi datgelu merch sioe fewnol cannoedd o berfformwyr Cymreig!

Mae Foo Foo wedi diddanu cynulleidfaoedd ers dros 30 mlynedd. Mae’n berfformiwr (dawnsiwr, cantores, coreograffydd, cynhyrchydd, mam a pherchennog busnes) aruthrol, sy’n datblygu a rhannu ei hwrlibwrli â chynulleidfaoedd ledled y wlad. Hyfforddodd Foo Foo mewn Theatr Gerdd yn Arts Educational Llundain. Mae’n creu ar gyfer hi ei hun a llinach Clwb Cabaret Caerdydd. Mae’n adnabyddus am ei bwrlésg comedi gwirion a champ a’i hactau canu.

Ana Kiss

Gyda blas am glamor Hen Hollywood wedi’i gyfuno ag elfen fodern ddrygionus, mae Ana Kiss yn femme-fatale neo-glasurol sy’n arbenigo mewn bwrlésg gothig ac etheraidd. Gyda dros 25 mlynedd o hyfforddiant clasurol mewn amryiwaeth o arddulliau dawns y tu ôl iddi, mae Ana yn cyfuno ei gallu amryddawn fel dawnsiwr â’i hoffter o bethau theatraidd i greu actau anhygoel ac arloesol yn llawn sylw at fanylder sy’n gadael y gynulleidfa wedi’i swyno gan ei straeon deniadol.

Miss Goldie Luxe

Perfformiwr bwrlésg â choesau nendwr a gwallt mor aur â’i hofferyn cerddorol yw Miss Goldie Luxe. Gyda doniau a ffurfiwyd yn lleithder Cymru, bydd Goldie yn mynd â chi ar daith gyda’i straeon deniadol. O’i Bond Villanelle sy’n dod i ddiwedd annisgwyl i’r temtwraig gyfareddol glasurol sy’n canu ei chorn yn bryfoclyd, mae cymeriadau Goldie yn swyno ac yn difyrru ei chynulleidfaoedd. Mae’n gorfoleddu yn y clasurol, yn gwneud y sacsoffon yn rhywiol ac mae wrth ei bodd yn ychwanegu coctel heintus o gomedi at ei pherfformiadau.

Sir Dezperado

Perfformiwr bwrlésg o Gaerdydd sy’n torri’r deuaidd yw Sir Dezperado, sy’n dwli ar gymysgu’r rhywiol a’r chwareus. Datblygon nhw eu sgiliau yn dawnsio yng Nghlwb Cabaret Caerdydd, gan berfformio deuawdau gyda Miss Goldie Luxe a datblygu eu hunawdau ffyrnig eu hunain.

Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau

Canllaw oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref, noethni

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret

Cabaret

Gweld popeth

Cabaret

All Aboard! At Termination Station

Anuvab Pal wears a blue suit

Cabaret

Anuvab Pal: The Department of Britishness

Cabaret

Blues and Burlesque

Tracey Collins dressed as Audrey Hepburn in Breakfast at Tiffany's.

Cabaret

Bog Off!!

A Celebration of Tracy Beaker

Cabaret

Eurovision Watch Party

gyda House of Deviant

Cabaret

The Extras Strike Back

A Musical Tribute to the Forgotten Heroes of Star Wars

Vernon James sits on a stool in the middle a country road with his guitar and back towards us.

Cabaret

How Sweet It Is: The Music of James Taylor

Perfformir gan Vernon James

Cabaret

Judy & Liza

Y sioe gerdd gofiannol ryfeddol

Madame Chandelier wears a hat with horns and her accordion

Cabaret i Blant

Madame Chandelier's Opera Party For Kids

Cabaret i Blant

Marcel Lucont: Les Enfants Terribles

Sioe Gemau i Blant Ofnadwy

A smartly dressed man lying on a bench underneath the Hammersmith tube station sign

Cabaret

MC Hammersmith

Cabaret

Queertet

Hanes LHDTCRh+ o Gerddoriaeth a Chân

Cabaret

Send In The Clowns: TW*TS

Drag lofruddiaeth o gerddoriaeth Andrew Lloyd Webber

Cabaret

Simply Barbra

Y frenhines drag Esther Parade wed'i lapio mewn lliain gwely gwyn

Cabaret

In Bed With Esther Parade

Cabaret

A Terrible Show For Terrible People

Cabaret

Come As You Are: Pride Burlesque

Cardiff Cabaret Club

Cabaret

That's Not My Name

Cabaret

Dragwyl

Rhan o Ffrinj Tafwyl

Cabaret

Shinani'n Siarad

Gyda Sharon Morgan + ffrindiau

Cabaret

Smut Slam: Splish Splash

Cabaret

Boylesque