Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop

Neuadd Hoddinott Y BBC

24 Chwefror 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-2048

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop

24 Chwefror 2024

Neuadd Hoddinott Y BBC

Takemitsu

Three Film Scores 

Kanai

Capriccio Okinawa 

Liszt

Concerto No.2 in A major, for Piano & Orchestra, S.125 

Dvorák

The Wood Dove, op.110, B.198 

-

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Nodoka Okisawa  arweinydd

Iyad Sughayer  piano

Mewn rhaglen sydd wedi ei hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r arweinydd o Japan, Nodoka Okisawa, i’r podiwm. Daw arddulliau jazz a blues wyneb yn wyneb â cherddoriaeth angladdol a waltz anarferol o bruddglwyfus ond siriol yng ngwaith cerddor arall o Japan, 3 Film Scores gan Tru Takemitsu. Gan ddatblygu ei llais cyfansoddi unigryw ei hun, Kikuko Kanai oedd un o’r merched cyntaf yn Japan i gyfansoddi cerddoriaeth glasurol Gorllewinol, gan gadw ei threftadaeth gerddorol o Okinawa. A hithau’n ymroddedig i drawsgrifio caneuon gwerin, defnyddiodd y rhain fel sail ar gyfer ei gweithiau ei hun, gan gynnwys ei Chyfres Ffantasi Okinawa.

Yn enwog yn yr un modd am ddefnyddio cerddoriaeth werin frodorol yn ei weithiau, roedd Franz Liszt nid yn unig yn gyfansoddwr dylanwadol, ond hefyd yn bianydd cyngerdd penigamp, felly does dim rhyfedd bod ei goncertos i’r piano ymysg ei ddarnau a berfformir amlaf heddiw. Gyda rhamantiaeth hynod, alawon trawsnewidiol a cadenzas tanllyd, daw ei ail goncerto yn fyw dan ofal y pianydd Jordanaidd-Palestinaidd sydd wedi ennill sawl gwobr, Iyad Sughayer. Mae plwc cynhenid Tsiecaidd, teitlau rhaglennol ffansi a’i gariad at faledau gwerin Karel Erben yn disgleirio yn The Wood Dove Dvořák, gyda’i offeryniaeth ddramatig ac atgofus yn troi’n alawon trawsnewidiol. Daw’r goleuni i gwrdd â’r cysgodion, galar i gwrdd â chariad, a darnau corawl i gwrdd â dawnsfeydd – yn syml iawn, adrodd straeon symffonig ar ei orau.

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 40 munud (yn cynnwys un egwyl)

DAN 26 OED A MYFYRWYR

£5

DROS 65 OED, POBL ANABL A DIGYFLOGEDIG

£10

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd. 

Neuadd Hoddinott Y BBC

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC