Dvořák
Concerto i’r Soddgrwth
Jennifer Higdon
Blue Cathedral
Dawson
Negro Folk Symphony
-
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ryan Bancroft arweinydd
Alisa Weilerstein soddgrwth
Bydd y chwaraewr soddgrwth fyd-enwog, Alisa Weillerstein, yn ymuno â BBC NOW yn y cyngerdd hwn i gloi’r tymor. Mae ei athrylith felodaidd, ei egni anorchfygol a’i gariad at gerddoriaeth werin frodorol ei wlad yn rheiddio drwy goncerto virtuoso uchel ei barch Dvořák i’r soddgrwth.
Mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog ac awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol yn ymledu drwy waith medrus Higdon, Blue Cathedral - taith sonig drwy ofod cysegredig ac i fyny i’r nefoedd. Mae synwyrusrwydd a melodïau didwyll yn llifo allan o waith Dawson, Negro Folk Symphony, sydd wedi'i hysbrydoli gan y “gerddoriaeth werin negroaidd” roedd wedi'i dysgu pan oedd yn blentyn bach. Mae’r symffoni hon, sydd wedi’i llunio’n fedrus ac yn llawn emosiwn, yn athrylith pur, a phwy well i arwain y diweddglo cyffrous hwn i'r tymor na’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft.
Amser dechrau: 7.30pm
Hyd y perfformiad: i'w cadarnhau
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£5
DROS 65 OED, POBL ANABL A DIGYFLOGEDIG
£10
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.