Yn y 60au roedd sïon bod Walt Disney wedi rhewi ei hun er mwyn ei thwyllo. Yn y 90au gwnaeth Goldie Hawn a Meryl Streep ei hosgoi ar ddamwain. Heddiw rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i beidio ag edrych fel petai’n agosáu. Marwolaeth yw’r tabŵ mawr olaf, ac rydyn ni yma i'w dorri.
Mewn sioe sy’n llawn straeon a cherddoriaeth ac sy’n esbonio pam nad oes unrhyw jôcs da am farwolaeth yn bodoli, rydyn ni’n wynebu marwolaeth yn uniongyrchol, ac yn ystyried a allai ein bywydau fod yn fwy cyfoethog drwy siarad amdani.
Actor, cynhyrchydd ac awdur yw Hannah Whittingham y mae ei chlodrestr yn y West End yn cynnwys The Last 5 Years (Apollo Theatre) a The Sound of Music (London Palladium), ac sydd wedi cynhyrchu ar gyfer y BBC ac ITV.
Fel awdur rhaglenni dogfen, mae’r sioe yma yn deyrnged i'r comisiynwyr na roddodd olau gwyrdd i farwolaeth.
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Marwolaeth, galar
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.