Dewch i dreulio noson gofiadwy gyda Dick ac Angel Strawbridge, sêr rhaglen boblogaidd Channel 4 Escape to the Chateau, a phrofi’r Chateau fel erioed o'r blaen.
Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae miliynau o wylwyr ledled y byd wedi cael eu cyfareddu gan anturiaethau’r Cyrnol Raglaw, peiriannydd a chogydd wedi ymddeol, Dick, a’i wraig Angel, sy’n entrepreneur ac yn ddylunydd. Nawr, ar ôl dwy daith o amgylch y DU a werthodd allan, mae’r pâr yn teithio eto, gan rannu hyd yn oed mwy o anturiaethau, heriau a llwyddiannau adeiladau a byw bywyd eu breuddwydion mewn Chateau,
Ar eu taith fwyaf hyd yma, bydd y cwpl yn archwilio pam wnaethon nhw fentro arni, gan fynd â’r gynulleidfa tu ôl i’r llen yn eu cartref am byth a beth sydd ei angen arnoch er mwyn byw eich breuddwydion. O ddechrau eu taith Chateau i heddiw, byddan nhw’n ailymweld ag eiliadau poblogaidd ac yn adrodd straeon nas clywyd o’r blaen.
Efallai eu bod nhw’n ‘gwpl rhyfedd’ ond mae gan y pâr carismatig yma stori gariad i’w rhannu a llawer i’w ddweud. Bydd hon yn sioe hynod ryngweithiol, gyda gemau doniol iawn a chyfle i ofyn eich cwestiynau eich hunain, felly peidiwch â’i cholli.
Canllaw oed: 8+ (ddim plant o dan 2 oed)
Amser cychwyn:
Sul 7.30pm
Hyd y perfformiad: i'w gadarnhau
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.