Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dragwyl

Rhan o Ffrinj Tafwyl

Cabaret

11 Gorffennaf 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Dragwyl {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2137

Cabaret

Dragwyl

Rhan o Ffrinj Tafwyl

11 Gorffennaf 2024

Cabaret

Ydyn, maen nhw nôl!

Wedi i 'Dragwyl' llynedd werthu allan yn llwyr, mae Connie Orff a’i ffreulu (ffrindiau+teulu) lliwgar yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yn eu holl gogoniant i ddathlu Drag iaith Gymraeg yn 2024.

Gyda’r dorf yn DAL i sgrechian am ragor, mae Cwîns a Chings Cymru yn dod at ei gilydd unwaith eto i ddod â deunydd newydd sbon i lwyfan Cabaret am ddigwyddiad hollol unigryw... am un noson yn unig!

Mynna dy docyn nawr a dere ymuno â Connie a'i theulu sblendigedig - ti byth yn gwybod pwy arall weli di yno…!

Connie Orff

Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau

Canllaw oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref

Iaith: Perfformir yn Gymraeg

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret