Mae cynhyrchiad dawns hudol Matthew Bourne o Edward Scissorhands wedi ennill lle yng nghalonnau cynulleidfaoedd ledled y byd ers y perfformiad cyntaf yn 2005.
Yn seiliedig ar ffilm Tim Burton ac yn cynnwys cerddoriaeth brydferth Danny Elfman a Terry Davies, mae Bourne a’i gwmni New Adventures yn dychwelyd i’r stori ffraeth a theimladwy yma am fachgen anorffenedig yn cael ei adael ar ei ben ei hun mewn byd newydd rhyfedd.
Mewn castell ar ben bryn mae Edward yn byw; bachgen a gafodd ei greu gan ddyfeisiwr ecsentrig. Pan mae ei greawdwr yn marw, caiff ei adael ar ei ben ei hun ac yn anorffenedig, gyda sisyrnau fel dwylo, nes i fenyw garedig o’r dref ei wahodd i fyw gyda’i theulu maestrefol. A all Edward ddod o hyd i’w le yn y gymuned groesawgar sy’n ei chael hi’n anodd gweld heibio ei ymddangosiad hynod i’r diniweidrwydd ac addfwynder sydd tu fewn?
‘Stunning! The wonders keep coming in Bourne’s magical version of the Tim Burton classic’
'Enchanting. The perfect treat for all the family’
’Visually arresting and ceaselessly inventive. A mountain of eye candy!’
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb a chleciau uchel
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 55 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf)
Aelodaeth
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Maw – Iau (2 bris uchaf)
Dyddiad talu grwpiau 20 Tachwedd 2023
Trefnu ymweliad grŵp
YSGOLION
£12 — tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl (ffôn 029 2063 6464)
Ar gael Maw – Iau ar seddi penodol
O DAN 16 + MYFYRWYR
Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Maw – Iau)
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Cyflwynir gan New Adventures, Martin McCallum a Marc Platt
Lluniwyd, cyfarwyddwyd a choreograffwyd gan Matthew Bourne
Cerddoriaeth a threfniannau newydd gan Terry Davies
Yn seiliedig ar themâu o sgôr y ffilm wreiddiol a gyfansoddwyd gan Danny Elfman
Yn seiliedig ar y ffilm wreiddiol drwy drefniant â 20th Century Studios
Cyfarwyddwyd y stori a’r ffilm wreiddiol gan Tim Burton
Sgript, stori a chyd-addasiad gwreiddiol gan Caroline Thompson
Dyluniwyd gan Lez Brotherston
Dyluniwyd y goleuo gan Howard Harrison
Dyluniwyd y sain gan Paul Groothuis
Drwy drefniant arbennig â Buena Vista Theatricals
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd