Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Empereur

Profiad realiti rhithwir am ddim

Bocs

1 – 19 Mai 2024

Bocs

Empereur

Profiad realiti rhithwir am ddim

1 – 19 Mai 2024

Bocs

Mae Bocs yn cyflwyno dangosiad cyntaf Prydain o Empereur, sef profiad naratif rhyngweithiol mewn realiti rhithwir, sy’n gwahodd y defnyddiwr i deithio i ymennydd tad sy’n dioddef ag affasia. Dyma stori dyn sydd wedi colli ei allu i siarad, a’i ferch sy’n ceisio cyfathrebu gydag e.

Dyma stori menyw, na chafodd gyfle i nabod y dyn tu ôl i’w thad, sydd nawr yn cael ei guddio gan y salwch yma. Wrth iddi geisio gosod yr hyn sydd ar ôl o’i iaith at ei gilydd, mae’n darganfod bod ei berthynas â geiriau yn gysylltiedig â’i atgofion. Atgofion oes gyfan... Cam wrth gam, cliw ar ôl cliw, byddwn ni’n plymio gyda hi i fyd mewnol y dyn yma, mewn ymgais i ddehongli’r stori nad yw’n gallu ei hadrodd wrthon ni mwyach.

Mewn esthetig unlliw, sy’n debyg i animeiddiad traddodiadol, caiff y stori bersonol yma ei hadrodd gyda naws swreal, gan archwilio affasia fel tir anghysbell.

Mae Empereur yn brofiad barddonol am golli gallu meddyliol, am dreigl amser, ac am y cysylltiadau sydd, er gwaethaf popeth, yn parhau.

Amseroedd agor:
Sul – Llun 11am – 4.30pm (mynediad olaf 3.50pm)
Maw – Sad 11am – 6.30pm (mynediad olaf 5.50pm)

Hyd: 40 munud

Canllaw oedran: 10+
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 10 oed.

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Mae hwn yn brofiad cerdded i mewn rhad ac am ddim, does dim angen archebu.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 10 oed.

Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs