Ga i eich sylw os gwelwch yn dda!!?
Mae’r sioe gerdd bop rymusol Fantastically Great Women Who Changed The World yn dod i Gaerdydd ym mis Ionawr!
Mae’r sioe gerdd ysbrydoledig yma, sy’n seiliedig ar y llyfr poblogaidd i blant gan berthynas i un o’r Swffragetiaid, Kate Pankhurst, ac wedi’i haddasu gan Chris Bush (Standing at the Sky's Edge), wedi cael ei chreu gan un o gynhyrchwyr Six.
"a pop-fuelled, upbeat feminist hit"
"sister to Six"
Ymunwch â’n harwres chwilfrydig Jade wrth iddi ddianc o’i dosbarth i gymryd cipolwg tu ôl i’r llen yn y Gallery of Greatness, sydd heb agor eto yn yr amgueddfa leol. Ar ei thaith mae’n synnu ei bod yn cwrdd â menywod anhygoel: Frida Kahlo, Rosa Parks, Amelia Earhart, Mary Seacole, Marie Curie ac Emmeline Pankhurst i enwi ond ychydig.
O archwilwyr i artistiaid, gwyddonwyr i ysbiwyr, dewch i glywed straeon rhai o famau, chwiorydd a merched cryfaf hanes; mae pob un ohonynt yn eiconau annibynnol a newidiodd y byd.
"an unapologetic joy"
"Vibrant history lesson in praise of girl power"
Mae’r dramodydd poblogaidd Chris Bush (Standing at the Sky's Edge) a’r cyfansoddwr arobryn Miranda Cooper (Girls Aloud, Kylie Minogue) yn addasu llyfr lluniau llwyddiannus disgynnydd un o’r Swffragetiaid, Kate Pankhurst, gyda cherddoriaeth gan Miranda Cooper a Jennifer Decilveo (Miley Cyrus, Beth Ditto) a chyfarwyddyd gan Amy Hodge (Mr Gum and the Dancing Bear, National Theatre).
Mae FANTASTICALLY GREAT WOMEN WHO CHANGED THE WORLD yn sioe lwyfan newydd grymusol y bydd pawb sy’n barod i symud a theimlo emosiwn yn ei mwynhau, gyda chymeriadau a chaneuon arbennig!
Canllaw oed: 7+
Amser cychwyn:
Mer – Iau 7pm
Gwe – Sad 4pm + 7.30pm
Sul 3pm
Hyd y perfformiad: Tua 80 munud (dim egwyl)
AELODAU
£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig)
Dod yn aelod
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 neu fwy ar gyfer grwpiau 10+ (2 bris uchaf, Mer – Iau 7pm + Gwe 4pm)
Dyddiad talu grwpiau 13 Hydref 2023
Trefnu ymweliad grŵp
O DAN 16
Gostyngiad o £3 (2 bris uchaf, Mer – Iau 7pm + Gwe 4pm)
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
MYFYRWYR
Gostyngiad o £3 (2 bris uchaf, Mer – Iau 7pm + Gwe 4pm)
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Perfformiadau Ymlaciedig