Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Explore Collective

Freedom to Create

Ffwrnais

11 Mawrth – 19 Ebrill 2024

Explore Collective

Freedom to Create

11 Mawrth – 19 Ebrill 2024

Ffwrnais

Mae Explore Collective yn falch i gyflwyno gwaith celf a grëwyd gan gyfranogwyr rhyfeddol ein cymunedau yn ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) a Phlant y Cymoedd (Porth).

Mae’r casgliad yn cyfuno llawer o’r sgiliau, technegau a phrosesau artistig rydym wedi’u dysgu gyda’n gilydd mewn gweithdai dros y ddwy flynedd diwethaf.

 

Tîm Explore Collective

Nic Parsons - Cydlynydd Partneriaeth ac Arlunydd Preswyl ACE

Ymarferydd creadigol ac arlunydd preswyl yn ACE Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yw Nic. Mae ei phrofiad blaenorol fel paentiwr golygfeydd i Opera Cenedlaethol Cymru a’i M.A. mewn Celfyddydau, Iechyd a Llesiant ym Mhrifysgol De Cymru wedi llywio ei hangerdd dros hyrwyddo effaith gadarnhaol cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.

Anne Culverhouse-Evans - Arlunydd Preswyl Plant y Cymoedd

Mae gan Anne lawer o brofiad fel ymarferydd creadigol yn y gymuned ac fel arlunydd annibynnol. Yn ogystal â chyflwyno sesiynau celf wythnosol, mae hefyd yn curadu Art in the Attic, The Robert Maskrey Gallery er mwyn i artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol arddangos eu gwaith.

Becci Booker - Arlunydd ACE

Mae Becci yn ymarferydd creadigol llwyddiannus gyda gradd BA Anrh. mewn Celfyddyd Gain. Mae ganddi brofiad sylweddol fel arlunydd cymunedol, gan weithio’n bennaf gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i rannu sgiliau mewn collage, gwneud printiau, celfyddydau carnifal a thecstiliau.

Rachel Carney - Bardd

Bardd a thiwtor ysgrifennu creadigol yw Rachel. Cafodd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf Octopus Mind ei ddewis gan The Guardian del un o’u llyfrau barddoniaeth gorau o 2023. Mae ei PhD yn archwilio sut y gall barddoniaeth ein helpu ni i ymgysylltu â chelf mewn amgueddfeydd. 

Suzie Larke - Ffotograffydd

Arlunydd gweledol a ffotograffydd o Gaerdydd yw Suzie. Ers graddio gyda gradd mewn ffotograffiaeth yn 2002, mae wedi gweithio’n rhyngwladol fel ffotograffydd masnachol a phortreadau. Mae ei gwaith personol yn defnyddio ffotograffiaeth gysyniadol i archwilio themâu hunaniaeth, emosiwn a’r cyflwr dynol.

Dr Ellie Farmahan - Straeon Research

Arbenigwr ymchwil a gwerthuso yw Ellie sy’n arbenigo mewn anghydraddoldebau, datblygu rhwydweithiau ac ymgysylltu creadigol. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y rôl gadarnhaol gall y celfyddydau ei chwarae mewn iechyd a llesiant, ac yn helpu i feithrin cydberthnasau hirdymor â grwpiau cymunedol amrywiol, y diwydiannau creadigol, sectorau diwylliannol a chelfyddydol a rhanddeiliaid polisi yng Nghymru.

Alan Whitfield - Swyddog Celfyddydau Gweledol Celfyddydau Anabledd Cymru

Mae Alan yn hynod falch o’i swydd gyda Celfyddydau Anabledd Cymru ac mae bob amser yn awyddus i gymryd cam ymhellach i helpu eu grŵp o artistiaid i gyflawni eu nodau.   

Becky Matyus - Cyn-gydlynydd Partneriaeth Explore Collective

Mae Becky wedi bod yn cydlynu mentrau celf cymunedol ers sawl blwyddyn, gyda’r weledigaeth i addysgu, galluogi ac ysbrydoli pawb. Mae’n credu y gall creadigrwydd fod yn adnodd i gynyddu hyder, annog cydberthnasau cymunedol cadarnhaol, datblygu sgiliau newydd ac ysbrydoli pobl i greu gyda’i gilydd, yn enwedig o fewn y cymunedau hynny sy’n wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad i’r celfyddydau. Mae Becky bellach yn Swyddog Ymgysylltu Datblygiad Cymunedol ACE.

Mae'r arddangosfa am ddim yma i'w gweld yn Ffwrnais a Glanfa. Edrychwch ar amseroedd agor ein hadeilad cyn ymweld. 

Cyflwynir yn

Ffwrnais