Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Text reads Verity Bargate Award 2024 against a hot pink background

Gweithdy Ysgrifennu Soho Theatre

Am ddim

Cabaret

17 Ebrill 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Gweithdy Ysgrifennu Soho Theatre {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2185

Gweithdy Ysgrifennu Soho Theatre

Am ddim

17 Ebrill 2024

Cabaret

Mae Soho Theatre yn cyflwyno gweithdy ysgrifennu drama yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, wedi’i amseru i baratoi dramodwyr cyn cyflwyno eu drama newydd ar gyfer Gwobr Verity Bargate 2024.

Dyma un o nifer o weithdai sy’n digwydd mewn lleoliadau ledled y DU ac Iwerddon. Bydd ysgrifenwyr yn cael gwybodaeth am raglenni presennol Soho Theatre, eu tri gofod theatr a beth mae adrodd straeon a theatredd yn ei olygu iddyn nhw.

Yn rhan gyntaf y gweithdy, bydd ysgrifenwyr yn dysgu am y Wobr Verity Bargate a threftadaeth Soho Theatre o ysgrifennu newydd.

Yn yr ail ran byddwn ni’n edrych ar samplau o nifer o ddramâu i ymchwilio i’w strwythur, eu ffurf, eu harddull a’u pwnc.

Yn olaf, byddwn ni’n gofyn beth sy’n gwneud drama yn addas ar gyfer Soho Theatre, p’un a yw’n fyw i’r byd, mewn cysylltiad â’n cynulleidfa ac â’r beiddgarwch i wneud i bobl dal anadl.

Amser: 6pm – 8.30pm

Oed: 18+

Mae’r gweithdy yma’n rhad ac am ddim. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly archebwch i gadw eich lle – ac os na allwch chi ddod mwyach, cysylltwch â ni. Diolch!

Cyflwynir yn

Cabaret