Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Judy & Liza

Y sioe gerdd gofiannol ryfeddol

Cabaret

8 Mehefin 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Judy & Liza {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2069

Cabaret

Judy & Liza

Y sioe gerdd gofiannol ryfeddol

8 Mehefin 2024

Cabaret

Gwelir Judy Garland a Liza Minnelli yn aduno yn y profiad cerddorol arbennig yma.

Mewn cynhyrchiad gwefreiddiol cawn stori gythryblus dwy o sêr fwyaf Hollywood, a hynny yng nghyd-destun eu cyngerdd drwg-enwog yn y London Palladium ym 1964. Bydd sêr y West End, Emma Dears a Helen Sheals yn disgleirio wrth ganu caneuon fwyaf enwog y ddwy. 

Gyda pherfformiadau o Cabaret, Maybe This Time, The Trolley Song a The Man That Got Away ymhlith y caneuon. Bydd y gynulleidfa’n mynd ar daith emosiynol ac yn darganfod y tebygrwydd sydd rhwng rhai o ganeuon fwyaf eiconig Judy a Liza a’u bywydau cythryblus. Treuliwch noson yng nghwmni’r fam a’r ferch sy’n cyfleu gwir ystyr y gair ‘showbiz’. 

Cynhyrchwyd gan Bill Elms Productions a On Song Productions. Crëwyd gan Emma Dears.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

"CLASSY, EMOTIONAL, TASTEFUL AND HEARTFELT."

Musical Theatre Review

Amser dechrau:
3.30pm, 2.30pm drysau
8.30pm, 7.30pm drysau

Canllaw oed: 12+

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret