Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Just My Imagination

Just My Imagination

The Music of the Temptations

Theatr Donald Gordon

11 Ebrill 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Just My Imagination {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-1915

Just My Imagination

The Music of the Temptations

11 Ebrill 2024

Theatr Donald Gordon

Paratowch i ddawnsio a chanu i ganeuon diamser sêr Motown The Temptations, yn Just My Imagination – dathliad o un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus mewn hanes cerddoriaeth boblogaidd.

Mae’r sioe yn mynd â’r gynulleidfa yn ôl i gyfnod y grŵp, a bydd yn teithio i theatrau ledled y DU yn 2024, gan ddod â chaneuon hollbresennol The Temptations – gan gynnwys ‘Get Ready’, ‘My Girl’, ‘Just My Imagination’ a ‘Papa Was a Rollin’ Stone’ – i’r llwyfan.

Mae Just My Imagination yn dathlu cyngerdd na fu erioed – gan gyfleu cyfnod ‘Classic Five’ y band a oedd yn cynnwys David Ruffin, Otis Williams, Eddie Kendricks, Melvin Franklin a Paul Williams, a dyna pryd cawsant eu llwyddiant cyntaf gyda ‘The Way You Do the Things You Do’.

Yna, mae’r sioe yn mynd ymlaen i ddathlu’r caneuon diamser o hanes y band. Caiff y cynhyrchiad gwreiddiol yma ei ysbrydoli gan gyflymder ac egni y sioe Broadway lwyddiannus ‘Ain’t Too Proud’ a gafodd 12 o enwebiadau am wobr Tony yn 2019.

Gyda chast o berfformwyr dynamig o’r West End a rhai o gerddorion mwyaf talentog y DU, mae Just My Imagination yn dod â noson ffres, fywiog a digyffelyb o hud canu a dawnsio i theatrau ledled y DU yn 2024.  

Canllaw oed: 8+

Amser cychwyn: 7.30pm

Hyd y perfformiad: i'w cadarnhau

CYFARFOD A CHYFARCH

Mae tocyn £79 yn cynnwys sesiwn Cwrdd a Chyfarch, cyfle i gael llun a rhodd.

Bydd ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cysylltu ag archebwyr yn agosach at y dyddiad gyda rhagor o fanylion.

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon