Sut ma’ negodi labrinth tywyll patriarchaeth tra’n ymestyn am y sêr?
Dathliad swreal ag eto cwbwl berthnasol o fywydau menywod yn eu holl amrywiaeth rhyfeddol – y cyfrinachau a’r celwydd, yr hud a’r lledrith, y pleser â’r boen.
Noson sy’n addo bod yn eithafol o emosiynol, weithiau’n hilariws, o bryd i’w gilydd yn ddirdynnol ond bob amser yn ddifyr.
Dewch i wrando ar y Shinani’n Siarad yng nghyfieithiad Sharon Morgan o The Vagina Monologues gan Eve Ensler.
Yn cefnogi ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru i greu byd lle gall menywod a phlant fyw’n rhydd o gamdrıniaeth yn y cartref a phob math o drais.
Croeso i bawb.
Sharon Morgan
Mae Sharon wedi bod yn bresenoldeb adnabyddus ar lwyfan ac ar sgrin yn Saesneg ac yn Gymraeg am fwy na hanner canrif ac wedi ennill tair gwobr actores orau BAFTA Cymru, am Tair Chwaer, Martha Jac a Sianco a Resistance.
Mae hefyd yn cael ei hadnabod am Grand Slam, Yr Heliwr, Gadael Lenin, Torchwood a The Evermoor Chronicles ac mae ei gwaith diweddar yn cynnwys 35 Diwrnod, Apostle, Gangs of London, Amgueddfa, Steeltown Murders ac Out There.
Yn ogystal mae wedi ysgrifennu ac addasu gwaith ar gyfer y llwyfan a’r sgrin ac yn fwyaf diweddar cyhoeddwyd ei thrioleg hunaniaeth yn y gyfrol Dramau’r Rhosys Cochion gan Honno, Gwasg Menywod Cymru.
Delyth Wyn
Ei gwreiddiau yn Blaenporth, Sir Aberteifi, mae Delyth Wyn yn actor, pypedwr a chantores sy'n gweithio ar draws y cyfryngau mewn ysgolion ac yn y gymuned.
Mae ei gwaith teledu dros y blynyddoedd yn cynnwys Pobol Y Cwm, Y Palmant Aur, Alys, Y Gwyll (Hinterland), 53 Diwrnod (Parti Plu) ac yn fwy diweddar, Amgueddfa, ac Y Golau (The Light in the Hall).
Bu'n aelod o theatrau Arad Goch, Bara Caws, Byd Bychan a Theatr Genedlaethol Cymru yng nghynyrchiadau Romeo a Juliet a La Primera Cena.
Yn aelod o'r perfformiad gwreiddiol o Shinani'n Siarad, mae wrth ei bodd cael ail-gydio yn y darn, a braint yw cyd-weithio gyda Sharon Morgan a Maria Pride unwaith eto.
Maria Pride
Enillydd Actores Orau BAFTA Cymru 2000 ar gyfer Pauline yn y ddrama deledu ‘Care’.
Adnabyddus fel Debbie ar ‘Pobol Y Cwm’ am sawl blwyddyn. Yn fwy diweddar, fel Julie Penry yn ‘Un Bore Mercher/ Keeping Faith’, Eldeg ‘Yr Amgueddfa 2’, Christine Kappen yn ‘Steeltown Murders’ a Minnie Butch yn ‘Pren Ar Y Bryn/Tree On A Hill’.
Mae’i gwaith theatr yn cynnwys 'Epa Yn Y Parlwr Cefn’ (Dalier Sylw), ‘Everything Must Go’ ac ‘Unprotected Sex’ (Theatr Y Sherman), ‘Brassed Off’ a ‘The Cherry Orchard’ (Theatr Clwyd) a ‘The Sleepers Den’ (Southwark Theatre).
Ac erbyn hyn, mae hi’n hyfforddwraig bersonol Lefel 4 arbenigol ac yn berchennog cwmni ffitrwydd MINI PT.
Clodrestr
Cyfarwyddwraig- Sera Moore Williams
Is-gyfarwyddwraig- Saran Morgan
Cynhyrchwyd oddiar-Broadway gan Bob Stone, Willa Shalit, Nina Essman, Dan Markley/Mike Skipper a Grŵp Araca.
Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan HOME ar gyfer Contemporary Theatre and Art yn HERE
Randy Rollison, Cyfarwyddydd Artistig; Barbara Busackino, Cyfarwyddydd Cynhyrchu yn gysylltiedig â Wendy Evans Joseph.
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 14+
Rhybuddion: Iaith gref
Iaith: Perfformir yn Gymraeg
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £2.50
GRWPIAU
Gostyngiad o £2.50 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.